Skip to page content

Ein cyfrifoldebau

Mae CCAUC yn gyfrifol am gyllido addysg uwch (AU) yng Nghymru.  Dosbarthwn gyllid ar gyfer addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn un ar ddeg sefydliad addysg uwch, gan gynnwys gweithgareddau addysgu'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Rydym hefyd yn cyllido cyrsiau addysg uwch mewn colegau addysg bellach. 

  • Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, derbyniwn gyllid gan, ac rydym yn atebol i, Lywodraeth Cymru.
  • Rydym yn gorff cyfryngol rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector addysg uwch yng Nghymru.
  • Rhoddwn gyngor i Lywodraeth Cymru ar anghenion cyllido, dyheadau a phryderon y sector addysg uwch.
  • Hyrwyddwn fuddiannau Cymru yn arena ehangach addysg uwch y DU.

Drwy ein system gyllido dryloyw, cefnogwn y sector AU yng Nghymru mewn nifer o feysydd blaenoriaethol a bennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • hyrwyddo datblygu dysgu ac addysgu, yn enwedig ansawdd y profiad dysgu
  • buddsoddi mewn sylfaen ymchwil gref a datblygu rhagoriaeth ymchwil
  • annog gweithgareddau mewn addysg uwch sy’n cefnogi busnes a’r gymuned
  • ehangu mynediad i addysg uwch
  • cefnogi datblygiad addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cryfhau’r sector AU - gyda phwyslais ar annog ailgyflunio a chydweithio, cynaliadwyedd ariannol, arweinyddiaeth a threfn lywodraethol effeithiol, datblygiadau Ewropeaidd a rhyngwladol, a chynnal yr ystâd
  • achredu a chyllido darparwyr cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru

Sefydlwyd CCAUC gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae ein cyfrifoldebau dros hyfforddiant cychwynnol athrawon wedi’u nodi yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) 2004 a Deddf Addysg 2005.

Mae oddeutu 55 o staff yn gweithio i Adran Weithredol CCAUC, sydd wedi’i lleoli yn Llanisien yng ngogledd Caerdydd, Cymru. Llywodraethir CCAUC gan Gyngor o hyd at 12 aelod sy’n cynnwys y Cadeirydd, Mr Roger Thomas, a’r Prif Weithredwr, yr Athro Philip Gummett.

Skip to top of page or to page menu