Skip to page content

Caffael

Mae ein swyddogaeth gaffael yn darparu arbenigedd caffael i’n staff ac i’r sector addysg uwch (AU) yng Nghymru. Mae’n codi proffil caffael yn fewnol ac o fewn y sector AU. Hefyd, mae'n cyfleu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i randdeiliaid yn y sector AU, ac eraill.

Mae’r swyddogaeth gaffael o fewn CCAUC yn:
  • cefnogi gweithgareddau caffael CCAUC i sicrhau y ceir gwerth am arian pan fydd yn prynu ei nwyddau, gwasanaethau a gwaith ei hun, ac y dilynir yr arfer gorau ym maes caffael bob amser
  • gweithio gyda’r sector AU i hybu ac i roi cyngor ar yr arferion caffael gorau

Datganiad ar bolisi caffael a rôl gaffael CCAUC

Gweithdrefnau caffael llawn CCAUC

Cynllun gweithredu mewnol diweddaraf

Cynllun gweithredu allanol diweddaraf

Caffael Cynaliadwy

Mae caffael cynaliadwy yn gwreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy mewn penderfyniadau gwario. Gall penderfyniadau gwario gwell sy’n cymryd agweddau amgylcheddol a chymdeithasol yn ogystal ag agweddau economaidd i ystyriaeth roi gwir werth am arian.

Mae ein Polisi Caffael Cynaliadwy yn nodi’r egwyddorion, polisïau a gweithdrefnau y seilir gweithgaredd caffael cynaliadwy o fewn CCAUC arnynt. Mae hefyd yn ysgogi staff sy’n gysylltiedig â chaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith i ddefnyddio cynaliadwyedd yn ffactor yn eu penderfyniadau prynu.

Cynllun Gweithredu Caffael Cynaliadwy

Fframwaith Caffael Cynaliadwy (SPAF)

Polisi Caffael Cynaliadwy

Asesiad risg cynaliadwyedd ar gyfer prynu nwyddau

Asesiad risg cynaliadwyedd ar gyfer prynu gwasanaethau

Tasglu Caffael Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cadeirir y Tasglu Caffael Busnes gan Weinidog y Cynulliad dros Ddatblygu Economaidd a Chludiant. Ei nod yw helpu cwmnïau ar hyd a lled Cymru i gystadlu am ac ennill cyfran uwch o wariant caffael blynyddol y sector cyhoeddus Cymreig, sef £4 biliwn ar hyn o bryd.

Mae’r tasglu’n cynnwys pobl fusnes sydd â phrofiad o gystadlu am gontractau yn y sector cyhoeddus Cymreig, pobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes caffael, a chynrychiolwyr o’r gymuned cymorth busnes.

Y Siarter dros Gaffael Cyfeillgar i Gwmnïau Bach i Ganolig

Cynhyrchwyd Agor Drysau – Y Siarter dros Gaffael Cyfeillgar i Gwmnïau Bach i Ganolig gyda chymorth Gwerth Cymru. Mae’r Siarter hon yn rhan o raglen o waith i sefydlu ymagwedd gyson at gaffael ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth fynd i’r afael, yr un pryd, â materion sydd o bryder arbennig i gwmnïau bach i ganolig.

Mae CCAUC a’r sector AU wedi ymrwymo i’r Siarter.

Agor Drysau – Y Siarter dros Gaffael Cyfeillgar i Gwmnïau Bach i Ganolig

Skip to top of page or to page menu