Skip to page content

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i bolisi o gyfle cyfartal a cheisiwn y wybodaeth er mwyn cwrdd â’n dyletswyddau statudol ym maes cydraddoldeb a mynd ymhellach na hyn i fynd i’r afael yn gadarnhaol ag unrhyw faterion sy'n codi o’n monitro. Cyflwynir y wybodaeth hon yn gyfrinachol.

Bydd CCAUC yn monitro cydraddoldeb mewn perthynas â staff ac ymgeiswyr.

Casglwn wybodaeth am ryw, oedran, crefydd, credo, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigedd ac anabledd ar hyn o bryd.

Mae'r dogfennau yn Saesneg yn unig.

Yn achos ymgeiswyr, cyhoeddwn ystadegau ar ryw, ethnigedd ac anabledd.

Ystadegau am ymgeiswyr

Yn achos staff, cyhoeddwn ystadegau ar ryw, oedran, crefydd, credo, gogwydd rhywiol, ethnigedd ac anabledd. Ond oherwydd ein maint, os yw’r ffigurau’n llai na 10% caiff manylion eu tynnu i sicrhau na ellir adnabod unigolion.

Ystadegau am staff

I wneud ymholiadau neu i gael gwybodaeth bellach, e-bostiwch hrdepartment@hefcw.ac.uk

Mae’r holl wybodaeth a ddarperir ar ein gwefan ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys CD electronig, CD sain, Braille a phrint mawr drwy wneud cais.

 
Skip to top of page or to page menu