Adroddiadau cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym wrthi'n adolygu ein dogfennau cydraddoldeb yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Yn dilyn ein gweithgareddau ac ymarferion ymgysylltu drwy gydol 2011, rydym wrthi'n datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2012. Os hoffech gyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r prif gynllun, yn cynnwys y Cynllun Gweithredu cysylltiedig, cysylltwch â ni yn equality@hefcw.ac.uk.
O 2012 ymlaen, bydd Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb CCAUC yn cael ei gyhoeddi fel rhan o'n Hadroddiad Blynyddol a datganiadau ariannol cryno. Mae copïau o Adroddiadau Blynyddol Cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu blaenorol ar gael ar gais.
Mae’r holl wybodaeth a ddarperir ar ein gwefan ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys CD electronig, CD sain, Braille a phrint mawr drwy wneud cais.



