Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn CCAUC
Mae CCAUC yn ymdrechu i fod yn ddewis deniadol fel cyflogwr. Rydym yn mynd ati i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithle ac mae gennym nifer o bolisïau yn eu lle i gefnogi hyn.
- Rydym yn cydymffurfio â’n Cynllun Cydraddoldeb ac mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn nodi’r hyn yr ydym wedi’i wneud a datblygiadau yn y maes.
- Byddwn yn monitro data cydraddoldeb mewn perthynas â staff ac ymgeiswyr ac yn darparu ystadegau ar hyn.
- Rydym wedi cael ein hachredu gan y safon Two Ticks sy’n golygu bod gennym agwedd gadarnhaol at bobl anabl a’n bod wedi ymrwymo i’w cyflogi.
- Rydym yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb De-Ddwyrain Cymru (SEWEN).



