Dwyieithrwydd
Rydym wedi mabwysiadu'r egwyddor y byddwn yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod y rhan bwysig a chwaraeir gan addysg uwch (AU) wrth wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog.
Mae ein cynllun Iaith Gymraeg yn nodi:- sut y bydd CCAUC a staff CCAUC yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’r cyhoedd
- sut y bydd CCAUC a staff CCAUC yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’r sector addysg uwch (AU) yng Nghymru
- ein polisïau a chynlluniau ar gyfer cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector AU yng Nghymru
- sut y byddwn yn gweithredu ac yn monitro’r Cynllun
Cynllun Iaith Gymraeg
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg 2006/07
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg 2005/06

