Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Mae CCAUC yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn derbyn cylch gwaith blynyddol gan Lywodraeth Cymru’n dynodi meysydd gwaith i’w cyflwyno’r flwyddyn ganlynol am y cyllid a ddyrennir i ni.
Rydym yn gweithredu o fewn amgylchedd polisi cyffredinol sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Caiff blaenoriaethau allweddol yn yr amgylchedd hwnnw eu cyflwyno yn y dogfennau canlynol:
- Er Mwyn Ein Dyfodol - Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
- Cymru’n Un, rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru (2007), yn cyflwyno’r rhaglen ar gyfer llywodraethu dros dymor y Cynulliad hyd at 2011
- Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru (2008), sy’n llunio strategaeth sgiliau a chyflogaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dogfennau cysylltiedig, fel Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru – Darparu Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru

