Hyfforddi i fod yn athro
Gellir hyfforddi fel athro cynradd neu uwchradd ar gyrsiau israddedig neu TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) mewn sawl sefydliad yng Nghymru. Ceir hefyd gyrsiau byr i helpu i baratoi pobl ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu i helpu cyn-athrawon i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.
Gellir gweld y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau a llwybrau i addysgu ar wefan Hyfforddiant ac Addysg Athrawon yng Nghymru.
I ddod yn athro cymwysedig a mynd i mewn i’r proffesiwn dysgu bydd yn rhaid i chi ymgymryd â chyfnod o addysg a hyfforddiant o’r enw hyfforddiant cychwynnol athrawon.
Enw’r statws proffesiynol a enillwch ar ôl cwblhau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) yn llwyddiannus yw Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i chi ennill SAC er mwyn addysgu mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae SAC a enillir yng Nghymru yn gyfwerth â SAC a enillir yn Lloegr.
- os oes gennych radd israddedig eisoes ac yn dymuno addysgu mewn ysgol gynradd
- os oes gennych radd israddedig eisoes yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn y pwnc uwchradd yr ydych chi’n dymuno ei addysgu
- Os hoffech ddysgu ar y lefel gynradd, gallwch ddilyn cwrs gradd BA amser-llawn tair-blynedd gyda SAC
- Mae graddau BA neu BSc lefel uwchradd gyda SAC ar gael. Mae rhai ohonynt yn gyrsiau amser-llawn tair-blynedd ond mae’r mwyafrif yn gyrsiau dwy-flynedd a all fod yn addas:
- os ydych wedi cwblhau’n o leiaf un flwyddyn o astudiaeth addysg uwch yn llwyddiannus neu;
- os ydych yn dymuno addysgu pwnc sy’n dra gwahanol i’r un y mae gennych gymhwyster ynddo.
Mae’r Rhaglen Athrawon Graddedig, a weinyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi cyfle i chi ennill SAC (Statws Athro Cymwysedig) wrth ennill cyflog fel athro mewn ysgol.
- Os oes gennych radd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth gallwch wneud cais i fynd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG). Mae’r hyfforddiant yn para am dri mis i un flwyddyn ysgol, gan ddibynnu ar eich profiad blaenorol.
Bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ysgol a fydd yn eich cyflogi fel athro anghymwysedig cyn gwneud cais i fynd ar y rhaglen.
I gael rhagor o wybodaeth neu ffurflen gais, cysylltwch â Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 029 2082 6749 neu teachingenquiries@wales.gsi.gov.uk.
Gall cyrsiau HCA yng Nghymru fod o gymorth i’ch paratoi os ydych chi’n dymuno addysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Gall hyn gynnwys gwneud y cyfan neu ran o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu ymgymryd â’ch profiad ysgol mewn ysgol cyfrwng Cymraeg; (mae’r hyn sydd ar gael yn gallu amrywio rhwng darparwyr).
Mae cynllun atodiad cymhelliant cyfrwng Cymraeg ar gael i hyfforddeion ar gyrsiau TAR uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae’n darparu cymorth ariannol ac ieithyddol ar gyfer myfyrwyr sydd angen hyfforddiant ychwanegol arnynt i gynyddu eu hyder a’u cymhwysedd a’u helpu i addysgu eu pwnc uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â’r darparwyr hyfforddiant athrawon i ddarganfod os ydych yn gymwys.
Mae modiwlau ar gael i athrawon dan hyfforddiant ar gyrsiau cynradd israddedig i’w helpu i ddysgu Cymraeg ac i addysgu’r iaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.
Gall y nifer sy’n hyfforddi i addysgu Cymraeg ar y lefel uwchradd ddod yn athrawon ‘iaith gyntaf’ neu ‘ail iaith’.
Diweddarwn, bob blwyddyn, ystod o ddata am y boblogaeth o fyfyrwyr HCA ym mhob sefydliad sy’n darparu HCA. Mae’r data’n cynnwys, er enghraifft, niferoedd o fyfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau, cymwysterau mynediad a chymwysterau y gellir eu hennill, niferoedd o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a niferoedd sy’n ymgymryd â swyddi addysgu ar ôl cwblhau eu HCA.
Bydd Estyn (Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru) yn arolygu’r ddarpariaeth HCA yng Nghymru i sicrhau ei ansawdd a’i bod yn cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer HCA. Gellir gweld copïau o adroddiadau arolygu ar wefan Estyn.
Fel athro dan hyfforddiant bydd cymorth ariannol a chymorth arall ar gael i chi o sawl ffynhonnell yn ystod eich cwrs.
Gwybodaeth bellach:
Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru
Cymhelliant Hyfforddi Athrawon yng Nghymru ar gyfer hyfforddeion TAR 2010/11

