Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg – ynghyd ag yn Saesneg – yn rhan nodedig a phwysig o addysg uwch yng Nghymru.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliad cenedlaethol newydd sydd yn chwarae rhan bwysig mewn cynllunio, cynnal a datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r prifysgolion yng Nghymru ac yn cyllido nifer o brosiectau a fydd yn cyfoethogi profiadau astudio myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. Gall myfyrwyr a darpar fyfyrwyr hefyd ymaelodi â’r Coleg.
Mae gwefan Mantais y Coleg yn rhoi gwybodaeth am astudio yn y Gymraeg, a chwilotydd cyrsiau gyda dolenni â gwefannau'r prifysgolion Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg wrth ymweld â phrif wefan y Coleg. .

