Astudio yng Nghymru
Mae Prifysgolion yng Nghymru’n cynnig ystod o gyrsiau addas ar gyfer dysgwyr ar sawl lefel:
- graddau sylfaen, sydd wedi eu cyfuno â dysgu yn y gweithle
- tystysgrifau, neu dystysgrifau gradd a diplomâu
- graddau baglor rhan amser ac amser llawn ar gyfer israddedigion
- graddau ymchwil neu raddau meistri a addysgwyd
- tystysgrifau ôl-raddedig a diplomâu
- doethuriaethau
- addysg i oedolion ac addysg barhaus
Yn ogystal, cynnigir nifer o gyrsiau addysg uwch (AU) mewn rhai colegau addysg bellach.
Yn y flwyddyn academaidd 2007/08, roedd mwy na 125,000 wedi ymrestru ar gyrsiau AU yng Nghymru, ac o’r rhain roedd 28% yn rhan-amser, ac mae’r sector AU yng Nghymru’n croesawu ryw 12,000 o fyfyrwyr tramor bob blwyddyn.
Llyfryn Astudio yng Nghymru y Cyngor Prydeinig: 'Raw Energy, Pure Talent'

