Skip to page content

Ffioedd i fyfyrwyr llawn-amser israddedig o 2012

O 2012/13, bydd 10 sefydliad addysg uwch, a thri choleg addysg bellach sy’n cynnig cyrsiau AU cymwys, yn codi ffioedd o hyd at £9,000 ar israddedigion amser-llawn o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd myfyrwyr sydd fel rheol yn byw yng Nghymru yn derbyn Grant Ffi, nad oes angen ei ad-dalu, i dalu am y gwahaniaeth rhwng y ffioedd yn 2011/12 (£3,465) a’r ffioedd newydd a gâi eu codi yn 2012/13, ble bynnag yr oeddynt yn astudio yn y DU.

Roedd angen i bob sefydliad bydd yn codi ffioedd uwch na’r gyfradd sylfaenol o £4,000 gyflwyno cynllun ffioedd i CCAUC yn dangos manylion y lefelau o ffioedd a manylion buddsoddiadau y maent yn bwriadu eu gwneud gyda chyfran o’r incwm newydd hwn i: hybu cydraddoldeb mynediad ymhellach; ac annog gweithgareddau sy’n hybu addysg uwch yng Nghymru ac yn sicrhau profiad mwy cadarnhaol i fyfyrwyr.

Cymorth ariannol

Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalen Cymorth ariannol a chymorth arall i fyfyrwyr.

Cynlluniau ffioedd

Mae CCAUC wedi cymeradwyo’r cynlluniau ffioedd a gyflwynwyd gan y sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach canlynol:

Prifysgol Morgannwg
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC)
Prifysgol Cymru Casnewydd
Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Sir Gâr
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr

 
Skip to top of page or to page menu