Dangosyddion Perfformiad y DU
Cyhoeddir dangosyddion perfformiad y DU bob blwyddyn gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ar ran y pedwar cyngor cyllido addysg uwch.
Dangosyddion Perfformiad mewn Addysg Uwch yn y DU 2007/08
Y prif ganlyniadau ar gyfer Cymru yn 2007/08 yw:
- Dengys y ffigurau fod gan y sector AU Cymreig gyfrannau cyffelyb neu uwch o fyfyrwyr o’r mwyafrif o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd.
- Yn achos israddedigion amser-llawn ifanc a gofrestrodd yn SAUau Cymru yn 2007/08, roedd y gyfran a oedd yn dod o Ddosbarthiadau NS-SEC 4, 5, 6 a 7 (30.8%) yn parhau’n fwy na’r gyfran ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. (T1b)
- Roedd cyfran yr israddedigion amser-llawn ifanc o gymdogaethau cyfranogiad-isel a gofrestrodd yn SAU Cymru yn 2007/08 yn 9.7%. Mae hyn yn is na’r 10.2% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, er y bu’r gyfran mewn blynyddoedd blaenorol yn uwch yng Nghymru nag yn y DU. (T1b)
- Roedd 26.7% o israddedigion amser-llawn a gofrestrodd yn SAUau Cymru yn 2007/08 yn aeddfed, sy’n debyg i’r gyfran ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, sef 26.5%. Roedd 12.2% o’r myfyrwyr hyn heb unrhyw brofiad blaenorol o AU ac yn dod o gymdogaeth lle’r oedd cyfranogiad yn isel; i gymharu ag 11.5% ar gyfer y DU gyfan. (Tabl 2a)
- Yn 2007/08 nid oedd gan 6.9% o israddedigion rhan-amser newydd unrhyw brofiad blaenorol o AU ac roeddynt yn dod o gymdogaethau cyfranogiad-isel; roedd hyn yn cymharu â 7.2% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. (T2b)
- Roedd y gyfran o fyfyrwyr gradd gyntaf amser-llawn newydd yn SAUau Cymru yn 2006/07 nad oeddynt mewn AU yn 2007/08 yn 10.9%, o’i chymharu â 9.0% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. (T3a)
- Roedd y gyfran o fyfyrwyr gradd gyntaf amser-llawn ifanc yn SAUau Cymru o gymdogaethau cyfranogiad-isel yn 2006/07 nad oeddynt mewn AU yn 2007/08 yn 11.6%, sy’n uwch na’r gyfran ar gyfer y DU gyfan o 9.8%. Ond mae’r gwahaniaeth rhwng Cymru a’r DU yn llai o’i gymharu â 2006/07. Ar gyfer myfyrwyr newydd o gymdogaethau eraill mae’r ffigur yn 8.6%. (T3b)
- Yn achos myfyrwyr gradd gyntaf amser-llawn aeddfed a gofrestrodd yn SAUau Cymru yn 2006/07 heb unrhyw gymhwyster AU blaenorol, roedd y gyfran o fyfyrwyr nad oeddynt mewn AU yn 2007/08 yn 18.5%, sy’n uwch na’r gyfran ar gyfer y DU gyfan o 15.1%. Yn achos myfyrwyr â chymhwyster addysg uwch blaenorol, nid oedd 15.0% mewn AU bellach. Mae hyn yn nes at y ffigur ar gyfer y DU (13.7%) nag yn achos myfyrwyr heb unrhyw gymhwyster AU blaenorol. (T3c)
- Roedd y gyfran o fyfyrwyr gradd gyntaf amser-llawn a gofrestrodd yn SAUau Cymru yn 2005/06 ac nad ailafaelodd yn eu hastudiaethau yn 2007/08 ar ôl blwyddyn allan o addysg uwch yn 2006/07 yn 81.8%. Roedd hyn yn uwch na’r ffigur o 78.4% ar gyfer y DU gyfan. Yn achos israddedigion amser-llawn eraill a gofrestrodd yn 2005/06, nid ailafaelodd 82.6% ohonynt yn eu hastudiaethau ar ôl cael blwyddyn allan, cyfran is nag ar gyfer y DU gyfan (86.0%). (T4a & T4b)
- Rhagwelir y bydd 75.3% o’r myfyrwyr amser-llawn sy’n dechrau cyrsiau gradd gyntaf yn 2006/07 yn ennill gradd, cyfran is nag ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd (77.3%). (T5)
- Mae’r gyfran o fodiwlau gyda chanlyniadau wedi cynyddu ac mae bellach yn 73.8%. O blith y rhain, cafodd 85.1% eu pasio. (T6)
- Roedd 93.6% o israddedigion amser-llawn ifanc a gofrestrodd yn SAUau Cymru yn 2007/08 o ysgolion neu golegau’r wladwriaeth, cyfran debyg i’r llynedd, sy’n fwy na honno ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, sef 88.5%. Roedd gan wyth o’r 11 SAU gyfrannau a oedd yn sylweddol uwch na’r meincnod. (Tabl 1b)
- Mae’r gyfran o israddedigion amser-llawn yn SAUau Cymru sy’n derbyn Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) yn parhau i godi, gyda 5.8% yn derbyn LMA yn 2007/08. Mae hyn hefyd yn parhau’n fwy na’r gyfran ar gyfer y DU gyfan, sef 4.5% yn 2007/08. Mae’r gyfran o israddedigion rhan-amser sy’n derbyn LMA yn 1.4%. Mae’r gyfran hon yn is nag ar gyfer y DU gyfan, sef 2.4%. (T7)

