Ystadegau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA)
Cyhoeddwn ystod o ddata am y boblogaeth o fyfyrwyr HCA ym mhob sefydliad sy’n darparu HCA, yn ogystal â thablau cryno ar gyfer y sector.
Diweddarwn y wybodaeth hon bob blwyddyn. Gall y wybodaeth fod o gymorth i ddarpar athrawon dan hyfforddiant sy’n ceisio gwybodaeth am berfformiad darparwyr HCA yng Nghymru.
Mae’r data’n cynnwys:- niferoedd o fyfyrwyr
- cymwysterau mynediad
- niferoedd o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg
- niferoedd sy’n ennill Statws Athro Cymwysedig
- dosbarthiadau gradd i’r rheiny ar gyrsiau israddedig
- cyrchfannau ymadawyr, gan gynnwys niferoedd yn mynd i mewn i’r proffesiwn dysgu yng Nghymru ac mewn mannau eraill
- gwybodaeth am gyfle cyfartal: rhyw, proffil oedran, tarddiad ethnig a statws anabledd

