Arolwg busnes a chymunedau (HEBCIS)
Mae sefydliadau prifysgolion yn cyfrannu mwy na £1 biliwn y flwyddyn mewn gwariant crynswth i economi Cymru. Yn ogystal â’u rôl addysgol draddodiadol, maent hwy’n cyflawni swyddogaeth economaidd a chymdeithasol bwysig.
Mae cymunedau’n elwa ar gyfleusterau mewn prifysgolion megis canolfannau celfyddydau a chwaraeon, amgueddfeydd a gerddi botanegol. Gall busnesau fanteisio ar dechnoleg ac arbenigedd eu prifysgol lleol ac mae gan gyflogwyr ffynhonnell o weithwyr medrus. Bydd llawer o brifysgolion yn helpu i hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, gan gyfrannu at amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol.
Er mwyn cefnogi busnesau, mae gan bob prifysgol yng Nghymru swyddog cyswllt diwydiannol enwebedig y gall busnesau gysylltu ag ef yn benodol.
Arolwg Blynyddol
Mae’r Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch – Busnes a’r Gymuned yn edrych ar y cyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a’r byd ehangach ac yn cyfrannu at gyfeiriad strategol y gweithgareddau Arloesedd ac Ymwneud y mae’r cyrff cyllido a phrifysgolion yng Nghymru yn ymgymryd â hwy.
Mae’r arolygon yn casglu data ariannol a data mewnbwn bob blwyddyn academaidd. Mae’r canlyniadau’n rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o weithgareddau, o fasnacheiddio gwybodaeth newydd, i ddarparu hyfforddiant proffesiynol a gwasanaethau ymgynghorol, i weithgareddau y bwriedir iddynt arwain at fanteision cymdeithasol uniongyrchol.

