Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (APCC gynt)
| Cyfeiriad | Western Avenue Llandaff Cardiff CF5 2YG |
| Ffôn | 029 2041 6070 |
| Ffacs | 029 2041 6286 |
| Gwefan | www.cardiffmet.ac.uk |
| Is-Ganghellor | Yr Athro Antony J Chapman |
| Llywydd | Y Gwir Anrhydeddus, Arglwydd Faer Caerdydd, Brian Griffiths |
| Cadeirydd y Llywodraethwyr | Dr Barbara Wilding CBE |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd gynt) ym Medi 1976 o dan y teitl Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Fe’i ffurfiwyd drwy gyfuno pedwar coleg: Coleg Addysg Caerdydd, Coleg Celf Caerdydd, Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd a Choleg Technoleg Llandaf. Ar 1 Ebrill 1992, trodd yr athrofa yn Gorfforaeth Addysg Uwch ac roedd yn Sefydliad Cyswllt i Brifysgol Cymru. Ym 1993 cafodd yr athrofa sêl bendith y Cyfrin Gyngor i gael pwerau dyfarnu graddau a addysgir. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Cymru fel Coleg Prifysgol ym mis Ebrill 1996, gan newid ei enw i Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Derbyniwyd APCC yn Athrofa Gyfansoddol o Brifysgol Cymru yn 2002. Yn 2006 daeth Ysgol Fasnach Llundain (LSC) yn Goleg Cyswllt i APCC, gan gynnig cyrsiau i fyfyrwyr APCC yn Llundain, Kuala Lumpur, Singapôr, Dhaka a champws Rhodfa Colchester yng Nghaerdydd. Yn 2008 dathlodd APCC ei bedwaredd flwyddyn yn aelod o Gonsortiwm FE2HE-APCC, sy’n cynnwys Coleg y Barri, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Glan Hafren, Y Coleg, Ystrad Mynach, ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC), a grewyd i gyfoethogi cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr o amgylch de-ddwyrain Cymru. Ymunodd Coleg Dewi Sant a'r Consortiwm yn 2009. Yn 2006 enillodd APCC safon Buddsoddwr mewn Pobl. Yn 2009 rhoddodd y Cyfrin Gyngor pwerau dyfarnu graddau ymchwil i APCC.
Mae myfyrwyr o bedwar ban byd yn dilyn rhaglenni gradd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yng Nghaerdydd mae dros 1000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio ar ei champysau ac mae llawer o’r rhain yn perthyn i’r 20% o fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd sy’n astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig. Mae tua 3000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio amser-llawn y tu allan i Gaerdydd drwy raglenni addysg rhyngwladol APCC, nid drwy’r Cyngor Dysgu a Sgiliau’n unig, ond hefyd ym Mwlgaria a’r Dwyrain Canol, ac ym Moroco a’r Aifft.
Mae holl adeiladau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn agos i ganol dinas Caerdydd. Ceir 4 campws addysgu – Llandaf, Cyncoed, Rhodfa Colchester a Gerddi Howard. Mae APCC wedi cyhoeddi strategaeth ystadau £50 million a fydd yn gweld buddsoddiadau arwyddocaol ar draws ei gampysau academaidd, gan gynnwys adeilad newydd i Ysgol Rheolaeth Caerdydd yng nghampws Llandaf.
Arwyddair Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yw: “Yr eiddo gwerthfawrocaf yw gwybodaeth” Gweledigaeth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yw: Bod yn ddarparwr gyda’r blaenaf ar addysg uwch sy’n hyrwyddo cyflogadwyaeth myfyrwyr; ymchwil gymhwysol a throsglwyddo gwybodaeth. Ei genhadaeth yw: Cynnig cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr sy’n hawdd cael atynt, hyblyg, cynhwysol, gydol oes ac o’r ansawdd uchaf; Darparu diwylliant y gall ymchwil gymhwysol a menter ffynnu ynddi; Datblygu canolfannau rhagoriaeth newydd ac sydd mewn bod mewn addysg broffesiynol, ymchwil gymhwysol a throsglwyddo gwybodaeth; Cynnig gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion Cymru a chymunedau ehangach drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff yn y ddinas, a rhai cenedlaethol a rhyngwladol.
| Proffil Adademaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 10,154 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 8,246 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 41 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 1,867 |

