Skip to page content
This is a placeholder image

Prifysgol Cymru, Casnewydd

Cyfeiriad Lodge Road
Caerllion
Casnewydd
NP18 3QT
Ffôn 01633 430088
Ffacs 01633 432006
Gwefan www.newport.ac.uk
Is-Ganghellor Dr Peter Noyes
Cadeirydd y Llywodraethwyr Mr Andrew Wilkinson
Hanes

Gellir olrhain gwreiddiau Prifysgol Cymru, Casnewydd, yn ôl at Athrofa Mecaneg Casnewydd, a sefydlwyd ym 1841. Sefydlwyd y Brifysgol fel Coleg Addysg Uwch Gwent ym mis Medi 1975 yn dilyn uno Coleg Addysg Caerllion, Coleg Celf Casnewydd a Choleg Technoleg Gwent. Ar 1 Ebrill 1992, daeth y Coleg yn Gorfforaeth Addysg Uwch, ac yn Sefydliad Cysylltiol o Brifysgol Cymru. Yn ffurfiol, daeth y Coleg yn Goleg Prifysgol, Prifysgol Cymru ym mis Ebrill 1996, gan newid ei enw i Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd. Yn 2004, daeth yn Brifysgol Cymru, Casnewydd.

Lleoliad

Mae’r Brifysgol wedi’i lleol ar ddau gampws yn ac o gwmpas Casnewydd, De Cymru. Campws Caerllion yw canolfan weinyddol y Brifysgol a chartref presennol yr Ysgol Addysg, yr Ysgol Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol a rhan o Ysgol Gelf, y Cyfryngau a Dylunio Casnewydd, yn ogystal â Chanolfan Dyscovery sy’n cynnig asesiadau a chymorth i blant ac oedolion gyda dyslecsia, dyspracsia ac anawsterau dysgu eraill. Mae Canolfan Dysgu Cymunedol a Gydol Oes y Brifysgol hefyd wedi’i lleoli yng Nghaerllion, ac mae ganddi ganolfan gymunedol yn Nhredegar. Adeilad newydd sbon yw Campws y Ddinas a godwyd yng nghanol dinas Casnewydd, ac mae’n gartref i Ysgol Fusnes Casnewydd ac elfenau dylunio, ffilm a chyfryngau’r Ysgol Gelf, Cyfryngau a Dylunio. Mae Campws y Ddinas yn ganolbwynt i weithgareddau creadigol, busnes ac entrepreneuraidd y Brifysgol.

Cenhadaeth

Cenhadaeth Prifysgol Cymru Casnewydd yw: Ysbrydoli a galluogi unigolion, sefydliadau a chymunedau i lwyddo trwy arloesi mewn addysg, ymchwil a mentergarwch o ansawdd uchel.

Proffil Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 8,045
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 3,451
Myfyrwyr rhyngosod 0
Myfyrwyr rhan-amser 4,594
Skip to top of page or to page menu