Skip to page content
This is a placeholder image

Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant (Prifysgol

Cymru, Llanbedr Pont Steffan gynt)

Cyfeiriad Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7ED
Ffôn 01570 422351
Ffacs 01570 423423
Gwefan www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/
Is-Ganghellor Yr Athro Medwin Hughes, D.Phil, DPS, FRSA
Cadeirydd y Cyngor ac Is-lywydd y Brifysgol  Dr Geoffrey Thomas
Hanes Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yw’r sefydliad Prifysgol hynaf yng Nghymru. Cafodd ei agor yn swyddogol ym 1827 fel Coleg Dewi Sant. Derbyniodd Siarteri Brenhinol gan ganiatáu iddo ddyfarnu ei raddau ei hun ym 1852 a 1865. Ym 1971, daeth yn rhan o Brifysgol Cymru, gan adael ei bwerau dyfarnu graddau’n ddi-rym yn wreiddiol. Atgyfodwyd pwerau dyfarnu graddau’r Brifysgol yn 2007 fel rhan o newid Prifysgol Cymru o strwythur ffederal i strwythur cydffederal, er bod Llanbedr Pont Steffan wedi dewis parhau i ddyfarnu graddau o Brifysgol Cymru.  Yn 2009 crëwyd prifysgol newydd yng Nghymru wrth i Brifysgol Llanbedr Pont Steffan gydrannu â'r Drindod i greu Prifysgol y Drindod Dewi Sant. 

Lleoliad

Mae’r Brifysgol ar gampws cryno ar ei safle gwreiddiol yng nghanol Llanbedr Pont Steffan.

Cenhadaeth

Traddodiadau academaidd cryf; Ysbryd mentrus a dynamig; ethos lle mae cymryd rhan mewn ymchwil arloesol yn hysbysu ac yn cefnogi addysgu; addysg ar gyfer oes; cymuned gefnogol a gofalgar. Mae’r Brifysgol yn cynnig rhaglenni trwy amrywiaeth o foddion gan gynnwys astudio amser llawn a rhan-amser ar y campws, ac ystod o gyfleoedd astudio oddi ar y campws trwy ddysgu o hirbell (gan gynnwys cyflwyno electronig) a threfniadau gyda sefydliadau partner. Mae'r Brifysgol yn hybu ymchwil ac ysgolheictod ac mae’n ymroddedig i gyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ei rhanbarth.

Proffil Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 3,218
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 1,992
Myfyrwyr rhyngosod 0
Myfyrwyr rhan-amser 1,226
Skip to top of page or to page menu