Skip to page content
This is a placeholder image

Prifysgol Morgannwg

Cyfeiriad Heol Llantwit
Trefforest
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1DL
Ffôn 01443 480480
Ffacs 01443 480558
Gwefan www.glam.ac.uk
Is-Ganghellor Julie E Lydon
Cadeirydd y Llywodraethwyr Yr Athro John Andrews
Hanes

Sefydlwyd yn wreiddiol yn Nhrefforest ym 1913 fel Ysgol Pyllau De Cymru a Sir Fynwy, a dynodwyd y sefydliad fel Coleg Polytechnig Morgannwg yn Ebrill 1970. Yn Ebrill 1975, unodd â Choleg Addysg Morgannwg yn y Barri ac ail-ddynodwyd fel Coleg Polytechnig Cymru. Ar 1 Ebrill 1992, daeth y Coleg Polytechnig yn Gorfforaeth Addysg Uwch. Ar ôl y penderfyniad i ganiatáu colegau polytechnig i fabwysiadu teitl prifysgol, daeth y Coleg Polytechnig yn Brifysgol Morgannwg ar 1 Medi 1992. Ym Mai 2006, integreiddiwyd Coleg Addysg Bellach Merthyr Tudful â’r Brifysgol lle'r oedd wrth galon y Gyfadran Addysg Bellach newydd. Ar 1 Ionawr 2007, sefydlodd y Brifysgol gynghrair strategol â Choleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru lle daeth y Coleg yn is-gwmni a berchnogir yn gyfan gwbl gan y Brifysgol.

Lleoliad

Prif leoliad y Brifysgol yw ei champws gwreiddiol yn Nhrefforest. Yn ychwanegol, mae ganddi gampysau yng Nglyn-taf (Cyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth) ac ym Merthyr Tudful (Cyfadran Addysg Bellach). Ym Medi 2007, agorodd y Brifysgol gampws newydd yng nghanol Caerdydd o’r enw “ATRiuM” – i fod yn gartref i Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd.

Cenhadaeth

Mae’r Brifysgol yn nodi ei gweledigaeth fel: “…ymrwymo i ddarparu awyrgylch addysgu o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys y safon orau o e-ddysgu a thiwtora yn ogystal a darparu adnoddau dysgu arloesol: awyrgylch dysgu sy’n annog ein myfyrwyr i ddatblygu a ffynnu, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Myfyrwyr ac felly graddedigion sy’n meddu ar sgiliau ddadansoddol a’r agwedd benderfynol o lwyddo, rhinweddau y mae galw mawr amdanynt ymysg cyflogwyr.”

Proffil Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 21,046
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 13,934
Myfyrwyr rhyngosod 49
Myfyrwyr rhan-amser 7,063
Skip to top of page or to page menu