Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Coleg
Prifysgol Caerfyrddin gynt)
| Cyfeiriad | Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 3EP |
| Ffôn | 01267 676767 |
| Ffacs | 01267 676766 |
| Gwefan | www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/ |
| Prifathro | Yr Athro Medwin Hughes |
| Cadeirydd y Cyngor ac Is-lywydd | Yr Athro Geoffrey Thomas |
Sefydlwyd ym 1848 i hyfforddi athrawon ar gyfer Ysgolion Eglwys, Coleg Prifysgol y Drindod yw’r unig Goleg Eglwys yng Nghymru. Ceir rhaglenni gradd galwedigaethol a gynigir trwy gyfrwng y Saesneg, y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae gan Goleg Prifysgol y Drindod ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig ac mae wedi datblygu arbenigedd mewn nifer o feysydd allweddol. Mae’r Coleg Prifysgol yn gweld ei hun yn brifysgol gymunedol sy’n gwasanaethu anghenion Cymru a’r tu hwnt. Mae wedi datblygu dimensiwn rhyngwladol trwy gysylltiadau yn UDA, Tsieina a Siapan, yn arbennig.
Ar gyrion Caerfyrddin, yn dref farchnad brysur yn ne orllewin Cymru, mae’n goleg wedi’i leoli ar gampws.
Mae Coleg Prifysgol y Drindod yn nodi ei genhadaeth fel a ganlyn: Hyrwyddo Coleg Prifysgol y Drindod, coleg prifysgol cymunedol sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru, fel darparwr addysg uwch a hyfforddiant dwyieithog o safon, sy’n gwneud cyfraniad effeithiol i ffyniant economaidd, cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol Cymru.
| Proffeil Academaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 2,953 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 1,904 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 0 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 1,049 |

