Skip to page content
This is a placeholder image

Prifysgol Abertawe

Cyfeiriad Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn 01792 205678
Ffacs 01792 295157
Gwefan www.swansea.ac.uk
Is-Ganghellor Yr Athro Richard B Davies
Canghellor Gwag
Cadeirydd y Cyngor a Dirprwy Ganghellor Syr Roger Jones OBE
Dirprwy Ganghellor Mrs Vivienne Sugar
Hanes

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe gan Siarter Frenhinol fel sefydliad cyfansoddol o Brifysgol Cymru ym 1920. Yn 2007, cymeradwywyd Siarter Atodol newydd gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, a sefydlodd Abertawe’n brifysgol yn ei hawl ei hun, yn annibynnol o Brifysgol Cymru. Daeth y newid ffurfiol mewn statws i rym ar 1 Medi 2007.  Ar ôl cydweithio â Phrifysgol Caerdydd derbyniodd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2009.

Lleoliad

Gorweddai'r prif gampws ym Mharc Singleton, yn edrych dros Fae Abertawe dwy filltir i’r gorllewin o Ganol Dinas Abertawe. Mae datblygiadau newydd, megis y Sefydliad Gwyddor Bywyd a’r Technium Digidol yn eistedd wrth ochr adeiladau mwy hanesyddol, megis Abaty Singleton, abaty neo-Gothig o’r 19eg Ganrif, sydd bellach yn gartref i weinyddiaeth y Brifysgol. Mae ail gampws yn Hendrefoelan sy’n cynnwys pentref myfyrwyr, yn lletya oddeutu 1,600 o fyfyrwyr. Mae’r cynlluniau ar gyfer y campws arloesiad  a gwyddoniaeth gyda phartneriaid diwydiannol, wedi dechrau. 

Cenhadaeth

Bydd Prifysgol Abertawe’n cynnig amgylchedd rhagoriaeth ymchwil, gan ymgymryd ag ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n hysbysu’r holl weithgareddau eraill yn y Brifysgol. Bydd Prifysgol Abertawe’n cyflwyno profiad nodedig i fyfyrwyr, gydag addysgu o’r ansawdd uchaf, sy’n creu graddedigion sydd wedi’u paratoi ar gyfer cyflawniad disglair personol a phroffesiynol. Bydd y gymuned Brifysgol yn gadarnle am dwf yn yr economi ranbarthol, a bydd yn cyfoethogi cymuned a bywyd diwylliannol Cymru. Bydd yn cyfrannu at iechyd, hamdden a lles dinasyddion yn ne orllewin Cymru a’r tu hwnt.

Proffiel Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 13,955
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 11,447
Myfyrwyr rhyngosod 45
Myfyrwyr rhan-amser 2,463
Skip to top of page or to page menu