Prifysgol Fetropolitan Abertawe
| Cyfeiriad | Mount Pleasant Abertawe SA1 6ED |
| Ffôn | 01792 481000 |
| Ffacs | 01792 475037 |
| Gwefan | www.smu.ac.uk |
| Is-Ganghellor | Yr Athro David Warner |
| Cadeirydd y Llywodraethwyr | Dr Gerald Lewis |
Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn un o brifysgolion mwyaf newydd y Deyrnas Unedig a chafodd ei theitl prifysgol ym mis Ionawr 2008. Ei henw gynt oedd Athrofa Addysg Uwch Abertawe, ac mae wedi bod yn ganolfan ar gyfer cyflwyno addysg uwch yrfaol am dros gant a hanner o flynyddoedd. Sefydlwyd yr Ysgol Gelf ym 1853 a’r Ysgol Addysg Athrawon ym 1872.
Lleolir y Brifysgol yn ninas Abertawe. Ceir pedwar prif gampws yn Townhill, Mount Pleasant, Heol Alexandra a Dinefwr.
Dyma genhadaeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe: Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn sefydliad addysg uwch cynhwysfawr, gyrfaol, sy’n canolbwyntio ar ei fyfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, dysgu gydol oes a gwella cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r Brifysgol yn annog mynediad rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Brifysgol yn benderfynol o ddarparu amgylchedd ysgogol, blaengar a chynaliadwy ar gyfer dysgu drwy ragoriaeth mewn dysgu, ymchwil gymhwysol a gwasanaeth ymgynghori.
| Proffil Academaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 5,071 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 3,210 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 2 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 1,859 |

