Skip to page content
This is a placeholder image

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Cyfeiriad 18 Heol y Tollty
Caerdydd
CF10 1AP
Ffôn 029 2047 1019
Ffacs 029 2038 8132
Gwefan www.open.ac.uk/wales
Cyfarwyddwr Mr Rob Humphreys
Hanes

Mae’r Brifysgol Agored yn arweinydd byd o ran darpariaeth dysgu o bell hyblyg ar lefel addysg uwch, trwy gyfrwng llwyfannau a thechnolegau arloesol sydd wedi’u seilio ar y rhyngrwyd. Mae’n hyrwyddo cyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol trwy ddarparu addysg prifysgol i bawb sy’n dymuno gwireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial. Trwy ei ‘rith-amgylchedd dysgu’ mae’r Brifysgol yn darparu addysg uwch i gartrefi a gweithleoedd ym mhob rhan o Gymru. Sefydlwyd y Brifysgol Agored drwy siartr ar 23 Ebrill 1969, gyda’r myfyrwyr cyntaf yn cofrestru ym 1971. Sefydlwyd y Brifysgol yn unol â’r gred y gallai technolegau cyfathrebu gyflwyno addysg lefel gradd o safon uchel i bobl nad oedd wedi cael y cyfle i fynychu prifysgolion campws.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn un o ‘genhedloedd a rhanbarthau’ ehangach Prifysgol Agored y DU, gyda 7,000 o fyfyrwyr. Mae’r myfyrwyr i gyd yn hanu o Gymru ac maen nhw i gyd yn astudio yn rhan amser. Y Brifysgol Agored yw sefydliad addysg uwch mwyaf y DU yn ôl nifer y myfyrwyr, gyda 200,000 o fyfyrwyr (gan gynnwys nifer sylweddol o’r tu allan i’r DU). Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig dewis o dros 550 o gyrsiau, o sesiynau blasu i gyfleoedd ôl-raddedig. Caiff nifer o gymwysterau’r Brifysgol Agored - o dystysgrifau i MBA - eu cydnabod a’u hachredu gan gyrff proffesiynol yn fyd eang. Nodwedd benodol o gynnig rhan amser y Brifysgol yw’r ystod eang o gyrsiau ym maes y gwyddorau, technoleg a mathemateg.

Mae canolfan weinyddol y Brifysgol Agored yng Nghymru yng Nghaerdydd â deuddeg canolfan diwtora ar draws Cymru. Mae ganddi 300 o staff dysgu rhan amser ar draws y wlad sy’n darparu cyrsiau a chefnogaeth i fyfyrwyr. Cyllidir y Brifysgol Agored yng Nghymru i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer dysgu ac addysgu.  Mae’r Brifysgol Agored yn ymateb i anghenion arbenigol a chyfleoedd yng Ngymru, yn ogystal â pholisiau ag amcanion a osodir gan Lywodraeth Cymru a’r CCAUC wrth dynnu ar fod yn Brifysgol â chyraeddiadau byd eang.

Lleoliad

Lleolir canolfan weinyddol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn Heol y Tollty yng nghanol Caerdydd, taith gerdded fer o’r brif orsaf drenau.

Cenhadaeth

Mae’r Brifysgol Agored yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Mae’n hyrwyddo cyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol trwy ddarparu addysg prifysgol o safon uchel i bawb sy’n dymuno gwireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial. Trwy ymchwil ysgolheigaidd, arloesi pedagogaidd a phartneriaeth gydweithredol mae’n ymdrechu i fod yn arweinydd byd o ran cynllunio, cynnwys a darparu addysg gefnogol agored ac o bell.

Proffil Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 5,635
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 0
Myfyrwyr rhyngosod 0
Myfyrwyr rhan-amser 5,635
Skip to top of page or to page menu