Prifysgol Glyndŵr
| Cyfeiriad | Plas Coch Wrecsam LL11 2AW |
| Ffôn | 01978 290666 |
| Ffacs | 01978 290008 |
| Gwefan | www.glyndwr.ac.uk |
| Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr | Yr Athro Michael Scott |
| Cadeirydd y Llywodraethwyr | Michael Cant, BArch MBA MIoD MRICS |
Sefydlwyd Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam yn 2008. Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru gynt, sefydlwyd yr Athrofa ym 1975 yn dilyn uno Coleg Addysg Cartrefle, Coleg Technegol Sir Ddinbych a Choleg Technoleg Sir y Fflint. Drwy’r colegau hyn gall Prifysgol Glyndŵr olrhain ei gwreiddiau nôl i 1887.
Prif leoliad yr athrofa yn Wrecsam yw Campws Plas Coch. Mae hefyd yn gweithredu ar safleoedd erraill ar Stryt y Rhaglaw (Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru), Llanelwy (Optic Glyndŵr) a Llaneurgain (Campws Sir y Fflint).
Gweledigaeth Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam yw: bod yn anhepgor fel partner arbenigol arwyddocaol a pherthnasol yn natblygiad rhanbarthol a chenedlaethol yr economi a chymdeithas. Ei genhadaeth yw: bod yn brifysgol myfyrwyr canolog dan arweiniad y farchnad o arwyddocâd rhyngwladol, sy’n agored i bawb.
| Proffil Academaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 7,805 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 3,736 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 0 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 4,069 |

