Prifysgol Caerdydd
| Cyfeiriad | Y Prif Adeilad Rhodfa’r Amgueddfa Caerdydd CF10 3AT |
| Ffôn | 029 2087 4000 |
| Ffacs | 029 2087 4879 |
| Gwefan | www.cardiff.ac.uk |
| Is-Ganghellor | Dr David Grant |
| Llywydd | Yr Athro Sir Martin Evans FRS |
| Cadeirydd y Cyngor | Yr Athro Syr Keith Peters |
Mae gwreiddiau Prifysgol Caerdydd yn dyddio o Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy a sefydlwyd ym 1883, gan newid ei henw i Goleg Prifysgol Caerdydd ym 1972. Daeth yn Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd ar ôl uno â UWIST ym 1988, yna’n Brifysgol Cymru, Caerdydd ac fe’i hadnabyddir fel Prifysgol Caerdydd bellach. Dathlodd y Brifysgol ei phen-blwydd yn 125 oed yn 2008. Yn 2004 unodd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, (wedi’i sefydlu’n Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru) â Phrifysgol Caerdydd.
Mae’r prif adeiladau yng nghanolfan ddinesig Caerdydd ym Mharc Cathays, ar Rodfa Colum, Heol Casnewydd (sy’n adnabyddus yn gyfunol fel Campws Parc Cathays) ac ym Mharc y Mynydd Bychan (Campws Parc y Mynydd Bychan).
Gweledigaeth Prifysgol Caerdydd: "Ein gweledigaeth yw bod yn un o brifysgolion blaenllaw’r byd gyda chymuned academaidd a gydnabyddir am ei bri a’i dylanwad rhyngwladol. Rhagoriaeth academaidd wedi’i gwreiddio mewn ymchwil ac ysgolheictod sy’n arwain y byd yw ein blaenoriaeth ddiamod. Yn sgil y rhagoriaeth hon byddwn yn parhau i ddangos effaith y gwaith a wnawn i hyrwyddo gwybodaeth a thros ein myfyrwyr a’n cymunedau."
Cenhadaeth Prifysgol Caerdydd: "Ein cenhadaeth yw anelu at ymchwil, dysgu ac addysgu o bwys a dylanwad rhyngwladol."
| Proffil Academaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 28,701 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 20,056 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 311 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 8,334 |

