Skip to page content
This is a placeholder image

Prifysgol Bangor

Cyfeiriad Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn 01248 351151
Gwefan www.bangor.ac.uk
Is-Ganghellor Yr Athro John Hughes
Llywydd Yr Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy
Cadeirydd y Cyngor Yr Arglwydd Davies o Abersoch 
Hanes

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884 (ei theitl gwreiddiol oedd ‘Coleg Prifysgol Gogledd Cymru’) yn ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch ar ddiwedd y 19eg ganrif am well darpariaeth addysg uwch yng Nghymru. Ym 1977 unodd Coleg y Santes Fair Bangor, sefydliad hyfforddi athrawon Anglicanaidd, â’r Brifysgol. Ym 1996, integreiddwyd y Brifysgol â Choleg Normal Bangor, a sefydlwyd ym 1858, yn wreiddiol i hyfforddi athrawon. Yn olaf, ym 2007, newidiwyd enw’r Brifysgol i Brifysgol Bangor yn dilyn caniatáu Pwerau Dyfarnu Graddau Wedi Addysgu ac Ymchwil gan y Cyfrin Gyngor.

Lleoliad

Lleolir y Brifysgol yn Ninas Bangor sy’n agos at yr Afon Menai ac Eryri.

Cenhadaeth

Mae Prifysgol Bangor yn diffinio ei chenhadaeth fel: Bod yn brifysgol dan arweiniad ymchwil o safon byd, cynnig addysgu a dysgu o’r ansawdd uchaf, a chyfrannu at ddatblygu economi, iechyd a diwylliant Cymru gynaliadwy a byd cynaliadwy.

Proffil Academaidd 2009/10
Myfyrwyr - Cyfanswm 10,080
Gan gynnwys
Myfyrwyr amser-llawn 8,355
Myfyrwyr rhyngosod 26
Myfyrwyr rhan-amser 1,699
Skip to top of page or to page menu