Prifysgol Aberystwyth
| Cyfeiriad | Old College King Street Aberystwyth Ceredigion SY23 2AX |
| Ffôn | 01970 623111 |
| Ffacs | 01970 611446 |
| Gwefan | www.aber.ac.uk |
| Is-Ganghellor | Yr Athro April McMahon |
| Llywydd a Chadeirydd y Cyngor | Syr Emyr Jones Parry |
Sefydlwyd ym 1872, Aberystwyth oedd y sefydliad prifysgol gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru. Mae’n un o’r tri choleg gwreiddiol a ffurfiodd Brifysgol Cymru ffederal ym 1893. Rhoddwyd teitl prifysgol gan y Cyfrin Gyngor gyda grym o Fedi 2007. Unodd Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru â’r Brifysgol ym 1989, Coleg Amaethyddol Cymru ym 1995 a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd yn Ebrill 2008. Erbyn y flwyddyn academaidd 2008/09, roedd ganddi dros 10,000 o fyfyrwyr cofrestredig a 2,100 o staff.
Mae gan y Brifysgol leoliad aml-gampws. Mae’r rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol ar y campws ym Mhenglais, a ddatblygwyd ers y 1950au. Mae rhai adrannau yn Llanbadarn, ac mae adeiladau cynharach y Brifysgol ym mhrif ran y dref ar lan y môr. Mae Gogerddan, ryw dair milltir tua gogledd y dref, yn gartref i gyfleusterau ymchwil i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a nifer o wasanaethau cefnogi’r Brifysgol.
Cenhadaeth Prifysgol Aberystwyth yw: “parhau i fod yn Brifysgol sy’n gallu cystadlu’n rhyngwladol o safbwynt dysgu ac addysgu, sy’n ymdrin â heriau byd-eang ac sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol, Cymru a’r byd yn ehangach”. Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, dyma yw ein nod: rhoi cyfleoedd dysgu o’r ansawdd uchaf i fyfyrwyr a chynnig amgylchedd arbennig i astudio ynddo; ymateb i’r newid yn anghenion cymdeithas am raddedigion medrus, hyddysg sy’n addas i’w cyflogi; cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, gan ymateb i anghenion deallusol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd; gweithio mewn partneriaeth i wasanaethu’r gymuned, y DU, Ewrop a’r byd yn ehangach; chwarae rhan lawn yn natblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, gan gynnwys cefnogi’r iaith Gymraeg.
| Proffil Academaidd 2009/10 | |
|---|---|
| Myfyrwyr - Cyfanswm | 10,370 |
| Gan gynnwys | |
| Myfyrwyr amser-llawn | 7,328 |
| Myfyrwyr rhyngosod | 87 |
| Myfyrwyr rhan-amser | 2,955 |

