Ynghylch y sector addysg uwch yng Nghymru
Mae 12 sefydliad addysg uwch (AU) - y prifysgolion a cholegau a gyllidwn yn uniongyrchol ac sy'n darparu cyrsiau AU - yn y sector AU yng Nghymru.
- Yn y flwyddyn academaidd 2007/08, roedd dros 125,000 o gofrestriadau ar gyrsiau AU yng Nghymru, ac roedd 28% o’r rhain yn gofrestriadau rhan-amser.
- Bydd oddeutu 1 myfyriwr ym mhob 20 yng Nghymru yn cymryd rhyw elfen o’i gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Bydd Cymru’n hyfforddi oddeutu 2,000 o athrawon ysgol gynradd ac uwchradd bob flwyddyn.
- Bydd Cymru’n croesawu dros 12,000 o fyfyrwyr tramor bob blwyddyn.
- Mae 57% o’r myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru yn dod o Gymru.
- Darperir rhai cyrsiau addysg uwch drwy golegau addysg bellach.
Ymhellach, mae addysg uwch yng Nghymru yn rym economaidd o bwys sy’n:
- cynhyrchu dros 30,000 o raddedigion y flwyddyn
- cyfrannu dros £1 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru
- cyflogwr mawr yng Nghymru
- denu buddsoddiad o’r tu allan ac yn cynhyrchu enillion o allforion
- denu £131 miliwn o fuddsoddiad ymchwil i Gymru o ffynonellau cyhoeddus a phreifat yn y DU, ac o’r Undeb Ewropeaidd
- denu myfyrwyr i astudio yng Nghymru, y mae pob un ohonynt yn cynhyrchu galw lleol am nwyddau a gwasanaethau. Mae myfyrwyr tramor Cymru yn unig yn dod â thros £110 miliwn i mewn ar ffurf ffioedd hyfforddi a gwariant ar anghenion bywyd

