Skip to page content

Ffrydiau cyllid eraill CCAUC

Er bod y rhan fwyaf o’r cyllid a roddir gan CCAUC i’r sefydliadau yn cael ei ddarparu fel grant bloc, darperir mwy a mwy o arian i gefnogi amcanion strategol.

  • Darparwn gymorth ariannol ar gyfer strategaethau’r sefydliadau yn y meysydd allweddol canlynol; Ehangu Mynediad, Dysgu ac Addysgu, Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, ac Arloesedd ac Ymwneud.
  • Darparwn gyllid ar gyfer cyrff sy’n hybu gweithgareddau addysg uwch, megis yr Academi Addysg Uwch, y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym hefyd yn cyllido gwaith prosiect gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru.
  • Ad-dalwn sefydliadau am eu costau mewn perthynas â ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau ERASMUS.
  • Cefnogwn astudio rhan-amser drwy ddarparu cyllid ychwanegol i sefydliadau.
  • Mae’r cyllid sydd ar gael i ni yn ein galluogi i estyn y cynllun GO Wales, a gyllidir yn bennaf gydag arian Ewropeaidd yn yr ardal Cydgyfeiriant, i ardaloedd nid-Cydgyfeiriant Cymru.
  • Ym maes darpariaeth feddygol, rydym wedi cefnogi Ysgol Glinigol Gogledd Cymru am gyfnod hyd at yr haf 2010.
  • Rydym wedi rhoi nifer o gynlluniau ar waith i gefnogi datblygu ymchwil.
  • Mae ein cyllid strategol yn cynnwys cymorth ar gyfer prosiectau a gyllidir drwy ein Cronfa Datblygu Strategol.
Skip to top of page or to page menu