Ffrydiau Cyllid heblaw am CCAUC
Nid CCAUC yw’r unig ffynhonnell cyllid ar gyfer addysg uwch yng Nghymru.
- Rhai o’r prif gyllidwyr ymchwil yw Cynghorau Ymchwil y DU. Mae’r saith Cyngor Ymchwil yn darparu cyllid drwy gystadleuaeth agored i gefnogi ymchwil o safon fyd-eang ar draws y sbectrwm llawn o ddisgyblaethau academaidd. Mae Memoranda Dealltwriaeth wedi cael eu llunio rhwng y Cynghorau Ymchwil a Llywodraeth Cymru i hybu cyfathrebu effeithiol mewn meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin.
- Mae’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, heblaw am feddygaeth a deintyddiaeth, yn cael ei chyllido’n bennaf ar hyn o bryd drwy’r Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesedd Genedlaethol ar gyfer Iechyd. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys meysydd megis nyrsio a bydwreigiaeth. Gweithiwn yn agos â’r Asiantaeth mewn sawl maes, er enghraifft, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, i ystyried meysydd lle y gallem gysoni arfer a gwella effeithiolrwydd.
- Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol mewn nifer o feysydd, er enghraifft, mae'r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn cefnogi gweithgareddau trosglwyddo ac elwa ar wybodaeth. Mae Swyddfa Ymchwil a Datblygiad Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu cyllid ar gyfer ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol.
- Mae Sefydliadau Addysg Uwch yn dibynnu ar godi arian preifat i gefnogi eu gweithgareddau heddiw ac yn y dyfodol. Er mwyn annog rhoi gwirfoddol, bydd ein Cynllun Arian Cyfatebol yn darparu arian cyfatebol ar gyfer rhoddion cymwys i sefydliadau addysg uwch Cymru.

