Cyllido addysgu
Mae dysgu ac addysgu mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn cael eu cyllido’n bennaf drwy grant rheolaidd CCAUC ar gyfer addysgu. Yn y flwyddyn academaidd bresennol, 2011/12, cyfanswm y grant yw £260.2 miliwn, sydd yn cynnwys taliadau premiwm ar gyfer ehangu mynediad, myfyrwyr anabl a chofrestriadau cyfrwng Cymraeg.
Derbynir sefydliadau addysg uwch eu dyraniad fel grant bloc, sydd â defnydd hyblyg i gefnogi eu cynlluniau gwario eu hunain. Cyfrifir y dyraniadau yn unol â’n Dull Cyllido Addysgu.
Cylchlythyr W11/12HE: Strategic Implementation Allocations (Saesneg yn Unig)
Byddwn hefyd yn dyrannu cyllid cyfalaf i gefnogi datblygu seilwaith dysgu, addysgu a TG mewn SAUau.
Defnyddir menterau cyllid i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau dysgu ac addysgu, gan gynnwys strategaethau dysgu ac addysgu’r SAUau. Cyllidwn hefyd waith rhai o’n partneriaid, megis yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, yr Academi Addysg Uwch, Cyd Bwyllgor Systemau Gwybodaeth (CBSG) a'r Rhwydwaith Fideo Cymru (RhFC).

