Ein dulliau cyllido
Dosberthir cyfran helaeth o’n cyllid yn grantiau bloc i’r sefydliadau, wedi’i ddyrannu yn ôl fformiwlâu, sy’n cymryd amrywiol ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys recriwtio mewn categorïau pwnc academaidd, modd a lefel, a faint o ymchwil o ansawdd da y mae’r sefydliad yn ymgymryd ag ef.
Dull Cyllido Addysgu (Saesneg yn unig)
Dull Cyllido Ymchwil Ôl-raddedig
Bob blwyddyn, derbyniwn gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r isadeiledd dysgu ac addysgu a TG, a’r isadeiledd ymchwil yn y sector addysg uwch.
Cronfa Buddsoddi Cyfalaf 2008-09 i 2010-11
Mae CCAUC yn darparu cyllid ar gyfer ystod eang o ddibenion. Amlinellir y rhain yn y Cylchlythyr Dyraniadau Cyllid blynyddol. Y cyhoeddiad diweddaraf sydd ar gael yw Funding Allocations 2008/09.
Mae Cyllid Arbennig yn cynnwys:
Cronfa Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Cronfa Ailgyflunio a Chydweithio
Cronfa Strategol Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (Cyllido Strategol HCA)

