Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Fel y corff sy’n cyllido addysg uwch mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru, rydym yn cydnabod y manteision mawr a all ddeillio o wella amrywiaeth yn y gyfundrefn addysg ac, yn arbennig, mewn addysg uwch. Byddai’r sefydliadau addysgol eu hunain, yr economi, cymdeithas ehangach Cymru a thu hwnt ar eu hennill.
Yn draddodiadol mae sefydliadau addysg uwch wedi denu amrywiaeth fawr o ymgeiswyr. Gweithiwn yn agos â’r sefydliadau i sicrhau eu bod yn gweithio i sicrhau cyfle cyfartal i’w myfyrwyr a’u staff. Mae hyn yn gofyn am weithredu dros amrywiaeth eang o feysydd ac am gydlynu effeithiol. Byddwn yn monitro gweithredoedd y sefydliadau a pherfformiad y sector ond byddwn hefyd yn darparu cymorth i alluogi’r sector i wella ei berfformiad ym maes cydraddoldeb. Byddwn yn:
- monitro gweithredoedd y sefydliadau a pherfformiad y sector
- darparu cymorth i alluogi’r sector i wella ei berfformiad ym maes cydraddoldeb

