Cymorth i Fyfyrwyr Anabl
Er bod CCAUC yn cydnabod nad oes gan bobl anabl, ar hyn o bryd, yr un cyfleoedd neu ddewisiadau â phobl nad ydynt yn anabl, mae sefydliadau addysg uwch (SAUau) yn amlygu eu hymrwymiad i gyfle cyfartal mewn llawer ffordd, yn enwedig drwy eu strategaethau ar gyfer myfyrwyr anabl.
Mae SAUau yn croesawu ymholiadau a cheisiadau gan fyfyrwyr anabl, ac yn helpu myfyrwyr anabl i fanteisio'n llawn ym mywyd y brifysgol trwy hybu amgylchedd dysgu a byw teg a chynhwysol. Mae’n anghyfreithlon i sefydliadau addysg uwch wahaniaethu yn erbyn pobl anabl – gan gynnwys darpar fyfyrwyr a staff – ar sail eu hanabledd. Disgwylir i'r SAUau wneud addasiadau rhesymol i bolisïau, cyrsiau, adeiladau a gwasanaethau i sicrhau nad yw myfyrwyr anabl dan anfantais.
Y ffordd fwyaf dibynadwy o gasglu data am nifer y myfyrwyr anabl mewn sefydliad yw drwy edrych ar nifer y myfyrwyr sy’n derbyn Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA). Pwrpas y lwfans yw helpu israddedigion a graddedigion amser-llawn a rhan-amser gyda’r costau ychwanegol a wynebant oherwydd eu hanabledd wrth fynychu eu cwrs. Caiff y LMA ei weinyddu gan yr Awdurdodau Lleol a chwmnïau benthyciadau myfyrwyr. Dangosodd Dangosyddion Perfformiad diweddaraf y DU (2007/08) fod Cymru’n gwneud yn well na gweddill y DU o ran recriwtio israddedigion gradd gyntaf amser-llawn sy’n derbyn LMA. Mae CCAUC yn seilio ei ddyraniadau cyllid premiwm ar gyfer anabledd ar y niferoedd hyn.
Mae'r SAUau yn derbyn arian gan CCAUC am y nifer o fyfyrwyr sy’n derbyn LMA yn eu sefydliad. Ar hyn o bryd, mae’r Premiwm Anabledd wedi’i osod ar £220 am bob myfyriwr cymwys sy’n derbyn LMA. Disgwylir i sefydliadau ystyried eu cyllid drwy ddatblygu a chyflwyno cynllun ar gyfer myfyrwyr anabl fel rhan o’u hymrwymiadau i ehangu mynediad. Mae’r cynlluniau yn sicrhau bod sefydliadau â'r gallu i baratoi a gwneud addasiadau ar gyfer myfyrwyr anabl, yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau megis trefniadau cymorth myfyrwyr arbenigol neu hyfforddiant staff yn parhau.
Rydym hefyd wedi darparu £12.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer datblygiadau angenrheidiol i sicrhau bod SAUau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ar anabledd. Defnyddiwyd y cyllid hwn i wneud addasiadau i adeiladau (neu waith ystâd arall) i sicrhau mynediad neu gyfleusterau digonol i fyfyrwyr anabl, ac i brynu offer arbenigol, gan gynnwys offer TG, i wneud cyrsiau’n fwy hygyrch iddynt.
Am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae SAUau unigol yn ei wneud i gynorthwyo myfyrwyr anabl, gofynnwch i’ch sefydliad am weld ei Gynllun Cydraddoldeb a/neu Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb i Bobl Anabl.
Mae sicrhau darpariaeth ar gyfer pobl anabl yn rhan annatod o’r ymdrech i ehangu mynediad i’r nifer sy’n gallu elwa ar AU. Mae ystod benodol iawn o ofynion a gweithgareddau ynghlwm wrth y fath ddarpariaeth, ond mae’n ymwneud hefyd ag ystyriaethau ehangu mynediad yn fwy cyffredinol, yn enwedig gan nad yw rhai o’r rhwystrau i addysg uwch a wynebir gan bobl anabl yn deillio o’u hanabledd yn unig. Dyma pam y mae CCAUC yn gofyn i sefydliadau gynnwys eu cynlluniau ar gyfer darpariaeth i fyfyrwyr anabl o fewn eu strategaethau ehangu mynediad ac yn atgoffa SAUau i fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac o anghenion pobl anabl wrth gynllunio polisïau a chynlluniau ehangu mynediad neilltuol.
Darparwn gyllid premiwm i gefnogi gwaith sefydliadau gyda myfyrwyr anabl. Mae’r premiwm anabledd wedi’i osod ar £220 am bob myfyriwr cymwys sy’n derbyn LMA. Bydd sefydliadau’n cyfrif am y cyllid drwy lunio adroddiadau blynyddol ar weithrediad eu strategaethau ehangu mynediad, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer darpariaeth i bobl anabl sy’n sicrhau y gall sefydliadau gynllunio a gwneud addasiadau a bod gwasanaethau megis trefniadau cymorth myfyrwyr arbenigol neu hyfforddiant staff yn parhau. Mae CCAUC yn disgwyl i sefydliadau osod targedau o fewn eu strategaethau ehangu mynediad a dangos sut y mae’r holl arian a ddyrennir iddynt i gynorthwyo myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio.
Sefydlwyd y cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach yn 2002 i godi dyheadau a sgiliau addysgol ac i ehangu mynediad i AU. Menter ar gyfer Cymru gyfan yw hon sy’n hybu cynhwysiad cymdeithasol a diweddaru sgiliau economaidd. Mae’r cynllun yn cyllido pedair partneriaeth ehangu mynediad rhanbarthol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bedwar prif grŵp o bobl o bob oedran sydd â diffyg cynrychiolaeth mewn addysg uwch ar hyn o bryd, gan gynnwys myfyrwyr anabl.

