Ynghylch addysg uwch yng Nghymru
Mae addysg uwch yng Nghymru’n cael ei gynnig yn bennaf drwy 12 prifysgol a choleg addysg uwch (AU) Cymru - sefydliadau addysg uwch - gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru. Fe’i cynnigir hefyd mewn nifer o golegau addysg bellach.
- Maes sydd wedi’i ‘ddatganoli’ yw addysg uwch, sy’n golygu mai Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gwneud y mwyafrif o benderfyniadau am AU yng Nghymru.
- Cyrff preifat yw sefydliadau addysg uwch sy’n annibynnol o'r llywodraeth. Derbyniant eu hincwm drwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys o ffioedd myfyrwyr, drwy brosiectau ymchwil a thrwy gynhyrchu busnes. Ond derbyniant gyfran o’u hincwm hefyd o gronfa gyhoeddus. Swyddogaeth CCAUC yw dosbarthu’r arian hwn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru at ddefnydd y sector AU yng Nghymru a gweithredu fel cyfryngwr rhwng y sector AU a llywodraeth.
- Hefyd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu’r cyd-destun ar gyfer datblygu addysg uwch yng Nghymru, er enghraifft drwy sefydlu’r fframwaith ar gyfer ffioedd a chyllid myfyrwyr a dyfeisio strategaethau ar gyfer AU yng Nghymru.
- Mae’r cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru - os ydynt o Gymru, gweddill y DU, yr Undeb Ewropeaidd neu weddill y byd - yn wahanol i’r cymorth sydd ar gael yng ngwledydd eraill y DU.
- Mae Cymru’n parhau i weithio ar sail Cymru a Lloegr neu sail DU-eang mewn meysydd megis yr arolwg blynyddol o foddhad myfyrwyr, asesiadau o ansawdd yr ymchwil mewn addysg uwch a gwneud ceisiadau i brifysgolion.
Mae’r adran hon yn rhoi rhai ffeithiau allweddol am addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys trosolwg o bob sefydliad addysg uwch, ac yn darparu cysylltau i’w dilyn i gael gwybodaeth bellach.

